Croesor i'r Cartref
Cymdeithas Enweiriol Pwllheli a'r Cylch
Cafwyd Cymdeithas 'Enweiriol Pwllheli a'r cylch ei ffurfio yn 1952 i sicrhau'r hawliau pysgota ar yr afonydd Erch a Rhydhir, a mae wedi tyfu o nerth i nerth. 'Roedd gorddiwesu hawliau pysgota Llyn Cwmystradllyn yn 1985 yn ddatblygiad naturiol i'r gymdeithas, a dyma, bellach ein prif bysgodfa.
Lleolir Llyn Cwmystradllyn yng nghornel dde-orllewinol Eryri, mae yn bysgodfa syfrdanol o hyfryd, gwyllt ond hawdd i fynd ati. Gan mai dyma'r dŵr llonydd agosaf at nyth Gweilch y Pysgod yn Aberglaslyn, rydym yn ystyried eu gwneud yn aelodau anrhydeddus.Mae rheolau'r bysgodfa'n caniatáu defnyddio pluen, troellwr neu bryfaid genwair, sydd yn gwneud y llyn yn ddeniadol i enweirwyr na fyddai'n pysgota dyfroedd o'r math yma'n arferol.
Bydd y gymdeithas yn ychwanegu at y stoc anferth doreithiog o Frithill Brown gwyllt, gyda stociadau o Frithyll yr Enfys yn reolaidd drwy'r tymor.
Heb ei brofi eich hyn mae ansawdd y dŵr yn anodd i'w ddisgrifio, anhygoel, yn glir fel jin, hyd yn oed wedi glaw trwn a thywydd garw. Gall dŵr sy'n ymddangos tua 1 medr o ddyfnder fod yn 3 medr neu fwy o ddyfnder mewn gwirionedd. Byddwch yn ofalus.
Hyd yn oed os nad ydych am bysgota, mae'n werth ymweld â'r llyn hyfryd yma. Dewch draw efo'r teulu, defnyddiwch y byrddau picnic ger y maes parcio, neu ewch am dro. Mae nifer o lwybrau cyhoeddus yn agos at y llyn wedi eu nodi ar fapiau OS. Ond cofiwch fod hon yn ardal fynyddig a phellennig, mae'n rhaid cael dillad, esgidiau ac offer addas.
Mae afonydd Erch a Rhydhir yn llifo i mewn i harbwr Pwllheli. Rheolwn 6 milltir o bysgota ar yr Erch a 1 filltir ar y Rhydhir. Fel y rhan fwyaf o afonydd Cymru mea llai o Eogiaid a Sewin nag a geid yn y 1960au a'r 1970au ond mae yma dal rediad eithaf, a physgod glan o'r mor tan ddiwedd y tymor ar Hydref 31ain.
Bychan, ar y cyfan, yw'r Brithyll Brown yn yr afonydd hyn ond, gyda offer phluen byr ag ysgafn, maent yn rhoi sialens ddiddorol a mwynhad.